Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5670


219

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14.29

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol - Adroddiad

Dechreuodd yr eitem am 14.52

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd - Mesurau Datblygu Economaidd - TYNNWYD YN ÔL

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.

</AI4>

<AI5>

5       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Dechreuodd yr eitem am 15.20

</AI5>

<AI6>

6       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Dechreuodd yr eitem am 16.21

NDM7105 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

7       Dadl ar Doll Teithwyr Awyr - yr achos dros ddatganoli

Dechreuodd yr eitem am 16.27

NDM7107 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

2. Yn croesawu argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll Teithwyr Awyr gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

3. Yn nodi’r gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r doll, gan gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy:

a) amlinellu cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad Cenedlaethol; a

b) datganoli’r Doll yn llawn erbyn 2021.

Cyd-gyflwynwyr

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

</AI7>

<AI8>

8       Cyfnod pleidleisio

Nid oedd cyfnod pleidleisio.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17.13

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 3 Gorffennaf 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>